SL(5)335 - Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn (Rhan 2) yn gwneud diwygiadau (sy'n dod i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir) i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018  (O.S. 2018/1064) i drosi darpariaethau penodol yn y cyfarwyddebau a ganlyn:

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 69/464/EEC ynglŷn â rheoli Clefyd y Ddafaden Tatws

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 93/85/EEC ynglŷn â rheoli pydredd cylch tatws

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 2007/33/EC ynglŷn â rheoli llyngyr tatws a diddymu Cyfarwyddeb 69/465/EEC

Mae'r darpariaethau'n ymwneud â phlannu rhywogaethau mochlysaidd penodol a rheoli plâu planhigion perthnasol.

At hynny, mae Rhannau 3-5 o'r Rheoliadau hyn (sy'n dod i rym ar y diwrnod ymadael) yn diwygio'r is-ddeddfwriaeth a ganlyn sy'n ymwneud ag iechyd planhigion er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill:

·         Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (O.S. 2018/1064)

·         Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (O.S. 2018/1179)

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Tatws sy’n Tarddu o’r Aifft (Cymru)(O.S. 2004/2245).

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Materion technegol: craffu

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2

1.     Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg.

Yn rheoliad 4 o'r offeryn hwn mae gwall yn y fersiwn Gymraeg ym mharagraff (o). 

Mae'r fersiwn Saesneg yn nodi –

“Further investigations

13.  If any suspected occurrence or confirmed presence of Potato cyst nematodes in Wales results from…”

 Mae'r fersiwn Gymraeg yn nodi –

 “Ymchwiliadau pellach 

13.  Os yw unrhyw achos a amheuir o Lyngyr tatws neu unrhyw achos o bresenoldeb Llyngyr tatws a gadarnhawyd yn deillio o…”

Nid yw'r fersiwn Gymraeg yn nodi “yng Nghymru”.

2.     Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg.

Yn rheoliad 27(a) mae is-baragraff (e) a fewnosodwyd yn cyfeirio at y Deyrnas Unedig yn y testun Saesneg ond mae'r testun Cymraeg yn cyfeirio at Brydain Fawr. 

3.     Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg.

Yn rheoliad 55(c) mae gwall yn y fersiwn Gymraeg.  Mae paragraff (c) o'r rheoliad hwnnw yn mewnosod geiriau ar ôl paragraff 1A o Atodlen 16 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018.  Mae'r geiriau a fewnosodwyd yn 1AB(b) yn nodi –

‘yn achos tatws hadyd a, phan fo’n briodol, thatws eraill, cynnal profion swyddogol ar samplau gan ddefnyddio’r dull a nodir yn EPPO PM 7/21’

Dylai nodi –

‘yn achos tatws hadyd a, phan fo’n briodol, datws eraill, cynnal profion swyddogol ar samplau gan ddefnyddio’r dull a nodir yn EPPO PM 7/21’

4.     Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol.

Yn rheoliad 34(iv)(aa) – nid oes paragraff 13 o ran E o'r rhestr o ddeunydd a reolir.  

5.     Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol.

Yn rheoliad 44 ym mharagraff (g), cyfeirir at 'Rhan A o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC'. Dylai gyfeirio at Atodiad III  i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC yn y fersiwn Gymraeg a'r fersiwn Saesneg.

6.     Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol.

Yn rheoliad 53(e)(ii) ac (g) cyfeirir at 'Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC'. Dylai gyfeirio at Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/33/EC yn y fersiwn Saesneg o ran rheoliad 53(e)(ii) ac yn y fersiwn Gymraeg a'r fersiwn Saesneg o ran rheoliad 53(g).

7.     Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol.

Yn rheoliad 54 ym mharagraff (e) yn y ddau le y mae'n digwydd, cyfeirir at 'Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC' a dylai gyfeirio at 'Atodiad III i Gyfarwyddeb 93/85/EEC yn y fersiwn Gymraeg a'r fersiwn Saesneg.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae'r Rheoliadau hyn yn creu dwy drosedd.

Mae'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 13 a rheoliad 48 yn cynnwys trosedd newydd mewn perthynas â'r gofynion mewnforio newydd o ran gwirio iechyd planhigion pan fyddant yn cyrraedd Cymru ac yn darparu'r gallu i orfodi ac erlyn achosion difrifol o ddiffyg cydymffurfiaeth.

Ychwanegir trosedd hefyd i orfodi unrhyw fethiant i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad mewn hysbysiad cyffredinol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018 mewn perthynas ag ardal sydd wedi'i darnodi o dan reoliad 5(k) a rheoliad 48. Mae penderfyniadau'r UE (deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarnodi'r ardal gyfagos pan fydd achos o bla a chymryd camau i ddileu a chynnwys yr achos hwnnw.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

13 Mawrth 2019